Yma yn PDC rydym yn sylweddoli fod rhaid i gynaliadwyedd fod yn rhan annatod o bopeth rydym yn ei wneud. Gall pob gweithred fyddwn yn ei gwneud gyfrannu i brofiad cynaliadwy yn y Brifysgol, o’r modd y byddwn yn darparu ynni i’n hadeiladau, i’r gwpan y byddwch yn yfed eich coffi ohoni. Gyda’r ethos hwn mewn cof, mae cynaliadwyedd yn rhannu i adrannau gwahanol, a’r cyfan yn cyfrannu i greu eich campws gwyrdd.
Ymhlith y prif feysydd i ganolbwyntio arnynt mae’r canlynol;
Mae cynaliadwyedd yn rhan o Adran Ystadau a Chyfleusterau.
Mike Bessell, Cyfarwyddwr dros dro ystadau a chyfleusterau sy’n gyfrifol yn y pendraw ar bob agwedd o gynaliadwyedd.
Mae Mike yn rhan o’r tîm arweinyddiaeth uwch sy’n adrodd i Mark Milton y Prif Swyddog Gweithredu, sy'n gyfrifol am gynaliadwyedd ac sy'n cadeirio'r Pwyllgor Cynaliadwyedd sy'n cynnwys uwch gynrychiolwyr o amrywiaeth o adrannau gwasanaethau proffesiynol ac academaidd, cynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr ynghyd ag aelodau allweddol o staff. Mae'r Pwyllgor yn arwain ar y cyfeiriad strategol ar gyfer cyflawni strategaeth gynaliadwyedd newydd Sero Net 2040 y Brifysgol.
Mae’r aelodau staff canlynol yn gofalu am agweddau penodol o gynaliadwyedd:
Neil Bradley; Rheolwr Ynni a Chynaliadwyedd
Yn gyfrifol am roi agenda ynni, carbon a chynaliadwyedd y Brifysgol ar waith. Ei nod yw lleihau ôl troed carbon y sefydliad i’r eithaf drwy fentrau ynni a chynaliadwyedd, polisi, ac ymgysylltiad rhanddeiliaid.
Jason Edwards; Pennaeth Gwasanaethau Lletygarwch
Yn gyfrifol am arlwyo yn PDC. Ei nod yw darparu’r profiad arlwyo gorau posib yn PDC, a lleihau i’r eithaf y gwastraff sy’n gysylltiedig â gwneud hynny.
Dadansoddwr Ynni a Chynaliadwyedd
Yn gyfrifol am fonitro ynni ac ymwybyddiaeth amgylcheddol. Ei nod yw lleihau i’r eithaf ynni sy’n cael ei wastraffu ledled yr ystad drwy ddadansoddi data a hyrwyddo arferion ymddygiad gorau.
Michael Davies; Swyddog Cynnal a Chadw
Yn gyfrifol am fioamrywiaeth yn PDC. Ei nod yw defnyddio’i brofiad mewn garddwriaeth i roi gwybodaeth am ddewisiadau a chynyddu i’r eithaf yr amrywiaeth o fodau byw all fyw ar ein hystad.
Andrew Moore; Rheolwr Diogelwch a Glanhau
Yn gyfrifol am wastraff yn PDC. Ei brif nod yw lleihau i’r eithaf gwastraff ffisegol i dirlenwi drwy wella’r ddealltwriaeth o ddidoli gwastraff a sicrhau fod gennym y cyfleusterau gwaredu gorau posib.
Gareth Llewellyn; Pennaeth Gwasanaethau Eiddo
Yn gyfrifol am deithio cynaliadwy yn PDC. Ei brif nod yw gwella seilwaith ar gyfer teithio cynaliadwy yn PDC, a lleihau i’r eithaf ôl troed carbon sy’n gysylltiedig â theithio.